Briefing

Cofiwch y bwlch: beth sy'n atal newid?

Conffederasiwn GIG Cymru Cynghrair Iechyd a Lles: Yr argyfwng costau byw a’r anghydraddoldeb cynyddol yng Nghymru.

14 July 2022

Read Cofiwch y bwlch: beth sy'n atal newid? External link icon

Mae tlodi yn achosi salwch.

Mae pandemig COVID-19 wedi ehangu’r anghydraddoldebau presennol ac wedi amlygu’r risg rhwng tlodi a chanlyniadau iechyd gwael yng Nghymru. Yn wir, mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod mai’r bobl sydd eisoes yn byw gydag iechyd gwael, tlodi neu mewn cymunedau ymylol yng Nghymru sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil y pandemig.

Mae anghydraddoldebau iechyd yn annheg, mae modd eu hosgoi ac mae gwahaniaethau systematig yn iechyd grwpiau gwahanol o bobl. Yn ystod y misoedd nesaf, wrth i gostau byw o ddydd i ddydd barhau i gynyddu’n gyflymach nag incwm pobl, mae hyn yn debygol o arwain at ostyngiad yn safonau byw llawer o bobl. Mae cost gynyddol bwyd ac ynni, yn ogystal â phrinder staff mewn rhai sectorau ac amhariadau o ran y gadwyn gyflenwi, wedi achosi cynnydd mewn chwyddiant. Mae hyn yn debygol o ddwysáu anghydraddoldeb yn y blynyddoedd i ddod.

Mae llawer o bobl wedi gorfod gwneud dewisiadau amhosibl – rhwng prynu bwyd, talu biliau’r cartref neu gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid. Mae hyn wedi effeithio ar iechyd meddwl pobl a’u llesiant yn gyffredinol, gan wneud i rai deimlo na allent ymdopi a chael adferiad yn dilyn argyfwng COVID-19.
Y Groes Goch Brydeinig

Mae tystiolaeth yn awgrymu, ar y mwyaf mai dim ond 20% o iechyd a llesiant poblogaeth sy’n ddibynnol ar wasanaethau gofal iechyd. Nid oes gan y GIG ei hun y pŵer i leihau anghydraddoldeb: dyna pam y mae angen i ni newid y ffocws o’r mentrau iechyd y cyhoedd sy’n cael eu darparu trwy’r GIG ac awdurdodau lleol a mynd i’r afael â ffactorau sy’n cynnwys tai gwael, trafnidiaeth ac ansawdd bwyd. Mae angen i lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r ffactorau sy’n achosi salwch yn y lle cyntaf. 

Mae’n bosibl y bydd y rhai sy’n cael anhawster gydag iechyd gwael yn wynebu colli enillion trwy gyflogaeth ac yn wir, efallai na fyddant yn gallu gweithio, sy’n golygu y bydd angen iddynt gysylltu â’r system fudd-daliadau. Yn ogystal ag effeithiau ar lesiant, efallai fydd gan y rhai ag iechyd gwael gostau byw uwch a bydd plant sy’n dioddef iechyd gwael yn gweld eu haddysg yn cael ei effeithio.
Sefydliad Joseph Rowntree

Dylai llywodraeth Cymru greu cynllun traws-lywodraethol i leihau tlodi ac anghydraddoldebau ymysg oedolion a phlant.  Dylai hyn amlinellu’r camau gweithredol sy’n cael eu cyflawni ar draws holl adrannau’r llywodraeth, gan esbonio sut bydd llwyddiant yn cael ei fesur a’i werthuso trwy fesurau a chanlyniadau perfformiad a rennir ar gyfer pob corff cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â chanllawiau ar sut y dylai sefydliadau unigol gydweithio i leihau anghydraddoldebau a mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.