Report

Adeiladu iechyd a llesiant y genedl: Galwadau Conffederasiwn GIG Cymru ar gyfer etholiad y Senedd 2026

Yn dilyn arolwg o 95 o arweinwyr y GIG, mae Conffederasiwn GIG Cymru yn amlinellu blaenoriaethau i maniffestos pleidiau gwleidyddol am etholiad 2026.

7 May 2025

Read Adeiladu iechyd a llesiant y genedl External link icon

Yn dilyn arolwg o 95 o'n haelodau – arweinwyr y GIG ledled Cymru, megis cadeiryddion, is-gadeiryddion, prif weithredwyr a chyfarwyddwyr gweithredol – mae’r ddogfen hon yn cyflwyno pum newid sylweddol y mae’n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru eu gwneud i adeiladu iechyd a llesiant y genedl a sicrhau cynaliadwyedd y system iechyd a gofal cymdeithasol. 

Ein cenhadaeth yw adeiladu iechyd a llesiant y genedl gyda chefnogaeth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel a dull a arweinir gan bartneriaeth o ymdrin ag iechyd a llesiant y boblogaeth sy’n cwmpasu’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ganolbwyntio ar bum maes trawsnewid:

Atal

Cyflwyno strategaeth genedlaethol drawslywodraethol i wella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau

Bydd hyn yn symud y ffocws oddi wrth drin salwch yn unig tuag at hybu iechyd a llesiant, lleihau anghydraddoldebau a mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd, hybu twf economaidd a chefnogi pobl i fod yn bartneriaid gweithredol o ran eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.

Y gweithlu

Buddsoddi mewn Cynllun Hirdymor ar gyfer y GIG a’r gweithlu gofal cymdeithasol a’u haddysg

Bydd hyn yn galluogi gweithredu gweithlu aml-broffesiynol sydd wedi’i alluogi’n ddigidol, sy’n llawn cymhelliant, sy’n ymgysylltu ac sy’n cael ei werthfawrogi ar draws y GIG a gofal cymdeithasol. 

Fframweithiau perfformiad ac ariannol

Cyhoeddi fframwaith perfformiad ac ariannol ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol i gael gofal a chymorth di-dor

Dylai’r fframwaith hwn bwysleisio atal, triniaeth effeithiol a chymorth amserol i unigolion, a dylai gael ei fesur yn gyson ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, cefnogi modelau gofal cydgysylltiedig a darparu gofal yn nes at y cartref.

Ystadau a Seilwaith

Lansio strategaeth cyfalaf a seilwaith hirdymor

Buddsoddi yn holl seilwaith y GIG a gofal cymdeithasol, gan gynnwys adeiladau, offer a seilwaith digidol; ond hefyd trwy drosoli datblygiadau technolegol ac ymchwil gan gynnwys genomeg a deallusrwydd artiffisial. Bydd hyn yn galluogi’r GIG a gofal cymdeithasol i ysgogi effeithlonrwydd, cynhyrchiant a chynaliadwyedd wrth wella canlyniadau cleifion a’r amgylchedd gwaith ffisegol i staff.
 

Gofal cymdeithasol

Sefydlu adolygiad cyflym annibynnol i ddatblygu cytundeb hirdymor ar gynaliadwyedd y system gofal cymdeithasol

Rhaid i’r adolygiad fynd i’r afael â heriau system gyfan a sefydlogi’r system gofal cymdeithasol drwy gyllid ac adnoddau cynaliadwy. Rhaid iddo hefyd ystyried tâl ac amodau’r gweithlu, mynediad at ofal a ariennir yn gyhoeddus a thryloywder a chysondeb o ran casglu ac adrodd ar ddata gofal cymdeithasol.