Press release

Blwyddyn i fynd: Galwadau arweinwyr y GIG wedi'u cyhoeddi ar gyfer etholiad y Senedd 2026

Mae Conffederasiwn GIG Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad yn nodi’r hyn y mae arweinwyr y GIG yng Nghymru ei eisiau gan Lywodraeth nesaf Cymru.

6 May 2025

Flwyddyn cyn etholiad y Senedd, mae adroddiad newydd gan Gonffederasiwn GIG Cymru yn nodi'r hyn y mae arweinwyr y GIG yng Nghymru eisiau i Lywodraeth nesaf Cymru ei flaenoriaethu wrth i wasanaethau ymdopi â galwadau cynyddol.

Wedi'i ddatblygu yn dilyn arolwg gan 95 o arweinwyr y GIG ledled Cymru, mae corff aelodaeth sefydliadau GIG Cymru yn galw am fwy o ffocws ar atal a phenderfynyddion ehangach iechyd, a fydd gofyn am symud at gyllidebau a chynllunio hirdymor.

Mae'r adroddiad yn amlinellu sut, heb fwy o ffocws ar atal a'r tymor hir, mae'r baich rhagweladwy ar iechyd a gofal cymdeithasol yn anorchfygol. Mae hyn yng ngoleuni anghenion cynyddol y boblogaeth gan fod salwch y gellir ei atal ar gynnydd. Mae hyn yn golygu y disgwylir i nifer y bobl sy'n byw gyda phedwar neu fwy Cyflwr Hirdymor ddyblu i erbyn 2035*.

Yn yr arolwg, cefnogodd 87% o arweinwyr y GIG gynllun trawslywodraethol ar gyfer gwella iechyd i symud y ffocws o drin salwch i hyrwyddo iechyd a llesiant. Felly mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno strategaeth genedlaethol drawslywodraethol i wella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau. Mae'n dweud y bydd hyn yn symud y ffocws i atal ac ymyrraeth gynnar, lleihau anghydraddoldebau a mynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd, hybu twf economaidd a chefnogi pobl i fod yn bartneriaid gweithredol yn eu hiechyd a'u llesiant eu hunain.

Wrth roi sylwadau ar gyhoeddiad yr adroddiad, a fydd yn cael ei drafod gyda phob plaid wleidyddol, dywedodd Darren Hughes, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru:

“Rydym yn gwybod bod disgwyl i bethau fynd yn anoddach, a bydd cyfran y boblogaeth 80 oed a hŷn yn dyblu rhwng 2000 a 2038* - carfan sydd eisoes yn cyfrif am gyfran enfawr o weithgarwch dyddiol y GIG.

“Dim ond i raddau cyfyng y gall y GIG a chyrff cyhoeddus eraill fynd i wneud cynnydd ystyrlon, cynaliadwy a chydlynol os nad yw’r amodau cywir ar waith. Mae'n bwysicach nag erioed bod llywodraethau, sectorau a sefydliadau'n dechrau meddwl yn wahanol am iechyd a llesiant, sut rydym yn darparu gwasanaethau ac yn creu cymunedau gwydn. Mae cylchoedd ariannu tymor byr presennol, sy'n mynd yn groes i'r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn creu ansicrwydd hirdymor, ac maent yn atal gallu ein haelodau i gynllunio ar gyfer y dyfodol a gwneud y defnydd gorau o arian trethdalwyr.

“Nawr yw’r amser i flaenoriaethu buddsoddiad mewn atal er mwyn gwrthdroi’r dirywiad yn iechyd a llesiant y genedl, mynd i’r afael ag achos sylfaenol anghydraddoldebau iechyd a galluogi pobl Cymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach.”

About us

We are the membership organisation that brings together, supports and speaks for the whole healthcare system in England, Wales and Northern Ireland. The members we represent employ 1.5 million staff, care for more than 1 million patients a day and control £150 billion of public expenditure. We promote collaboration and partnership working as the key to improving population health, delivering high-quality care and reducing health inequalities.