Press release

Mae angen cynllun gweithredu ar dlodi i frwydro yn erbyn anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru

Mae papur briffio newydd gan Gynghrair Iechyd a Lles Conffederasiwn GIG Cymru a Choleg Brenhinol y Meddygon yn ar anghydraddoldebau iechyd.

23 November 2022

Mae papur briffio newydd gan Gynghrair Iechyd a Lles Conffederasiwn GIG Cymru a Choleg Brenhinol y Meddygon yn disgrifio sut mae’r GIG, llywodraeth leol a sefydliadau trydydd sector ledled Cymru yn gweithio i chwalu rhwystrau a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Mae Cynghrair Iechyd a Lles Conffederasiwn GIG Cymru wedi lansio papur briffio newydd mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Meddygon. Mae’r papur Mae popeth yn effeithio ar iechyd yn ategu ein galwad am gynllun cyflawni trawslywodraethol ar dlodi ac anghydraddoldebau sy’n nodi cerrig milltir, amserlenni a thargedau clir, yr hyn y mae pob adran yn Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â thlodi, a sut mae gweinidogion yn gweithio gyda’i gilydd i leihau effaith amddifadedd.

Yn y papur briffio newydd hwn, rydym wedi casglu straeon sy’n disgrifio sut mae sefydliadau rheng flaen o bob rhan o Gymru yn gweithio i leihau tlodi, afiechydon ac anghydraddoldebau drwy chwalu rhwystrau ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, y celfyddydau, cyngor ar fudd-daliadau a llesiant, trafnidiaeth, unigrwydd, newid yn yr hinsawdd, llygredd aer a llawer mwy. Mae’r papur yn dilyn Cofiwch y Bwlch, sef adroddiad pwysig gan y Gynghrair a Choleg Brenhinol y Meddygon a gymeradwywyd gan hanner cant o sefydliadau ledled Cymru ym mis Gorffennaf 2022.

Mae arolwg newydd gan Goleg Brenhinol y Meddygon wedi canfod bod 74% o bobl yng Nghymru yn poeni am eu gallu i aros yn gynnes ac yn iach y gaeaf hwn ac mae 70% yn bwriadu defnyddio llai o wres yn eu cartref oherwydd biliau ynni cynyddol. Dywedodd 11% na fyddant yn gwresogi eu cartref hyd yn oed os gallai tywydd oer wneud aelod o’u cartref yn sâl neu waethygu eu cyflwr iechyd.

Dywedodd Dr Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru: "Mae tlodi yn achosi llawer iawn o afiechydon a salwch. Yn wir, dywedodd Archwilio Cymru mai dyma’r her fawr sy’n wynebu pob haen o lywodraeth. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau anghydraddoldebau ar draws amrywiaeth o feysydd polisi, ond rydym nawr yn annog gweinidogion i sefydlu tasglu trawslywodraethol, dan arweiniad y prif weinidog, i sicrhau newid sylweddol yn gyflym. Gyda’r argyfwng costau byw, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn mabwysiadu dull cenedlaethol a chydlynol o fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau. Er enghraifft, mae’r costau tanwydd cynyddol yn golygu y bydd mwy o bobl yn byw mewn cartrefi oer, sy’n gallu, yn ei dro, achosi a gwaethygu cyflyrau resbiradol, afiechydon cardiofasgiwlar, iechyd meddwl gwael, dementia, hypothermia a phroblemau gyda datblygiad plant. Mae angen dull cenedlaethol a gweithredu cydlynol ar draws y llywodraeth i fynd i'r afael â hyn."

Dywedodd Nesta Lloyd-Jones, cadeirydd y Gynghrair a chyfarwyddwr cynorthwyol Conffederasiwn GIG Cymru: "Mae gweithio ar draws sectorau i leihau tlodi, afiechydon ac anghydraddoldebau yng Nghymru yn hanfodol i helpu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Dim ond drwy weithio ar draws ffiniau y byddwn yn gallu cymryd camau fel cenedl i leihau’r bwlch anghydraddoldebau iechyd. Rydyn ni’n gwybod nad yw iechyd a llesiant yn fater ar ei ben ei hun. Felly, er mwyn helpu i gynyddu’r arferion da hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau pendant drwy gyflwyno cynllun gweithredu cenedlaethol a chydlynol ar draws sectorau."

Mae’r briff newydd yn cael ei gyhoeddi wrth i feddygon o’r 100 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru ddod at ei gilydd yn y Fenni i lansio prosiect Deep End a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn casglu ynghyd staff gofal sylfaenol o bob rhan o Gymru i drafod effaith gynyddol anghydraddoldebau iechyd mewn ardaloedd difreintiedig. Mae tystiolaeth yn dangos bod amddifadedd yn achosi i bobl fynd yn sâl yn iau a’u bod yn llawer mwy tebygol o gael nifer o gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol. Yn ei dro, mae’r angen am ofal iechyd sylfaenol yn cynyddu ac yn mynd yn fwy cymhleth, sy’n golygu bod y meddygon teulu hyn a’u timau’n cael trafferth ymdopi â’r llwyth gwaith.

Dywedodd Dr Rowena Christmas, cadeirydd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru: "Mae dros 50 mlynedd wedi mynd heibio ers i Dr Julian Tudor Hart gyhoeddi ei erthygl yn 1971 ar y Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal, ond mae anghydraddoldebau cynyddol o ran mynediad at ofal iechyd yn dal i fodoli yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae staff gofal sylfaenol a meddygon teulu yn gweld effaith tlodi bob dydd ac yn deall yn well na’r rhan fwyaf o bobl yr hyn y dylid ei wneud i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol mawr. Mae gan brosiect Deep End newydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru y potensial i newid bywydau er gwell."

Yr ystadegau y tu ôl i’r straeon

  • Mae dros draean o blant yng Nghymru bellach yn cael eu hystyried yn byw mewn tlodi, mwy nag unman arall yn y DU. (Archwilio Cymru)

  • Rhwng 2017–18 a 2019–20, roedd 23% o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl costau tai. Mae hyn yn debygol o godi. (Llywodraeth Cymru).

  • Mae hyd at 45% o aelwydydd yng Nghymru bellach yn debygol o gael trafferth cadw’n gynnes ac yn ddiogel gartref oherwydd tlodi tanwydd. (Gweithredu Ynni Cenedlaethol)

  • Mae 43% o bobl yng Nghymru wedi gweld eu hiechyd meddwl yn dirywio o ganlyniad i trafferthion ariannol, ac mae 30% wedi gweld dirywiad yn eu hiechyd corfforol. (Sefydliad Bevan)

Cofiwch y bwlch: Beth sy’n atal newid?

Ym mis Gorffennaf 2022, daeth hanner cant o sefydliadau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a thai at ei gilydd i gyhoeddi Cofiwch y Bwlch a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

  1. cynnwys ymrwymiadau i leihau anghydraddoldebau a mapio’r gweithgarwch presennol ar iechyd y cyhoedd, anghydraddoldebau, lleihau tlodi a nawdd cymdeithasol mewn un cynllun cyflawni i wella atebolrwydd
  2. rhoi blaenoriaeth i ddarparu canllawiau gweithredu cenedlaethol manylach i gyrff darparu lleol a chyflwyno rheoliadau ar gyfer asesu’r effaith ar iechyd
  3. datblygu set gyffredin o fesurau perfformiad sy’n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau a gwella mynediad at ddata cadarn o ansawdd uchel ar gyfer gwerthuso 
  4. gwella mynediad at raglenni atal sy’n seiliedig ar ofal sylfaenol a chymunedol, yn enwedig i’r rheini sy’n byw mewn tlodi, a buddsoddi mewn technoleg arloesol, gan gynnwys rhaglenni sgrinio, brechlynnau a thechnoleg y gellir ei gwisgo
  5. sicrhau bod cyllid yn annog cydweithio a’i fod yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

About us

We are the membership organisation that brings together, supports and speaks for the whole healthcare system in England, Wales and Northern Ireland. The members we represent employ 1.5 million staff, care for more than 1 million patients a day and control £150 billion of public expenditure. We promote collaboration and partnership working as the key to improving population health, delivering high-quality care and reducing health inequalities.