Report

GIG Cymru Adroddiad Astudiaeth Arloesi a Thrawsnewid COVID-19

Argymhellion ar sut mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a gall ymarferwyr ledled GIG Cymru gynnal ffyrdd arloesol a gweithio trawsnewidiol.

23 June 2021

Read GIG Cymru Adroddiad Astudiaeth Arloesi a Thrawsnewid COVID-19 External link icon

Mae Astudiaeth Arloesi a Thrawsnewid COVID-19 GIG Cymru wedi cael ei gynhyrchu trwy ymdrechion llu o bartneriaid. Rydym wedi cydweithio i ddarparu adroddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol eang a gasglwyd o bob rhan o’r system iechyd a gofal yng Nghymru. 

Bwriedir i’r adroddiad astudiaeth annibynnol hwn fod yn un hygyrch sy’n rhoi gwybodaeth ac yn erfyn sy’n ysgogi dysgu a newid. Wrth ei  baratoi, mae tîm y prosiect wedi anelu at:

  • ddatblygu gwell dealltwriaeth ynglŷn â pham y gweithredodd y system arferion newydd ac arloesol yn ystod pandemig COVID-19;
  • dangos y ceir ‘caniatâd’ cynhenid i gyflwyno arferion arloesol a newid trawsnewidiol;
  • roi tystiolaeth o enghreifftiau ymarferol, o’r byd go iawn o arloesi sy’n cefnogi’r syniad o gymhwyso arferion da i feysydd eraill;
  • dangos sut mae GIG Cymru yn arweinydd o safbwynt gweithredu arfer arloesol a ffyrdd newydd o weithio trwy gydol pandemig COVID-19.

Mae rhychwant eang o dystiolaeth ansoddol a meintiol wedi’i gasglu gan ymarferwyr ar bob lefel yn y system gofal iechyd, sydd wedi gweithio’n ddiflino i addasu i gyfres o amgylchiadau digynsail tra’n parhau i ofalu am a diogelu trigolion Cymru.

Gyda hynny mewn golwg, mae’r adroddiad hwn yn rhoi argymhellion ynglŷn â sut y gall y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac ymarferwyr ar draws GIG Cymru gynnal y ffyrdd arloesol a thrawsnewidiol o weithio sydd wedi datblygu.

Mae’r adroddiad astudiaeth hwn wedi’i ddarparu trwy ddull gweithio Tîm Cymru, gan gr p comisiynu prosiect penodedig. Darparwyd arweinyddiaeth ac adnoddau gan aelodau’r gr p – pob un ohonynt wedi dod ag arbenigedd penodol a chynnig unigryw o ran trefniadaeth. Mae’r cydweithio hwn yn dangos beth ellir ei gyflawni yng Nghymru fel cenedl fechan ond un sydd â  rhwydweithiau helaeth ac amgylchedd polisi integredig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Paratowyd yr adroddiad hwn a’r ymchwil sy’n sail iddo yn annibynnol i gr p comisiynu’r prosiect gan dîm dan arweiniad Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe (rhoddir manylion yr aelodaeth ar dudalen 50).

Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad astudiaeth hwn yn ddefnyddiol ar bob lefel yn ysgogi newid cadarnhaol ac ystyrlon mewn arferion.

Darllenwch y fersiwn yn Saesneg.

Astudiaethau achos

Tri deg saith Astudiaethau achos gan bob Bwrdd Iechyd Gymru a ddatblygwyd yn ystod ein hastudiaeth ymchwil fel dilyniant i'r dadansoddiad o'r setiau data.