Press release

Partneriaeth sy’n galluogi Cymru i arwain y ffordd ar y celfyddydau ac iechyd

Conffed GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi adnewyddu eu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i barhau â mentrau celfyddydol ac iechyd yng Nghymru.

12 December 2023

  • Inffograffig sy'n darllen: 'Hyrwyddo’r Celfyddydau, Iechyd a Lles: Gweithio mewn partneriaeth ers 2017: Cyngor Celfyddydau Cymru a Conffederasiwn GIG Cymru.' Brig ar y chwith: 'Timau’r celfyddydau ac iechyd ym mhob bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre' gyda llun o grŵp amrywiol o staff a chleifion y GIG yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Mae’r canol uchaf yn darllen 'Cefnogi rhaglenni creadigol sy'n gwella iechyd a lles pobl'. 'Cefnogi arloesedd' gyda llun o bobl yn meddwl am syniadau arloesol ac yn gwella (dringo ysgolion). Mae’r brig ar y dde’n darllen: 'Rhannu’r ymarfer gorau: ymchwil, adroddiadau, astudiaethau achos' gyda llun o bobl yn canu, paentio a dawnsio. Mae’r gwaelod ar y chwith yn darllen: 'Hyfforddi a rhwydweithio' gyda llun o bobl yn siarad ac yn cysylltu â’i gilydd. Mae’r gwaelod ar y dde’n darllen 'Codi ymwybyddiaeth, cyrraedd y cyhoedd, ymwybyddiaeth wleidyddol, digwyddiadau' gyda llun o'r Senedd a pherfformiad yn digwydd. Darlun gan Laura Sorvala.

Adnewyddu partneriaeth genedlaethol sy'n hwyluso mentrau celfyddydol ac iechyd i wella bywydau a lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal. 

Chwe blynedd ers llofnodi’r un cyntaf, mae Conffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi adnewyddu eu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i wella ymwybyddiaeth o’r buddion y gall y celfyddydau eu cael ar iechyd a lles ac i greu Cymru fwy cyfartal, diwylliannol a chynaliadwy.

Mae'r bartneriaeth wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol yn y gorffennol, gydag astudiaeth fyd-eang ar y celfyddydau ac iechyd, a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lancet, yn dweud “y memorandwm hwn yw un o’r ymrwymiadau mwyaf cadarn i ni ddod ar ei draws, o ran y dull rhyng-sectoraidd a'r buddsoddiad a'r gweithredu penodol”. 

Cafwyd tystiolaeth bellach o'r gydnabyddiaeth hon yr wythnos ddiwethaf gan adroddiad pwysig a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Creadigol a’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar y Celfyddydau, Iechyd a Lles, yr Adolygiad Iechyd Creadigol: Sut gall Polisi Gofleidio Iechyd Creadigol. Mae'r adroddiad pwysig yn ychwanegu at dystiolaeth gynyddol fod “angen i iechyd creadigol fod yn rhan annatod o system iechyd a gofal cymdeithasol yr 21ain ganrif i leihau anghydraddoldebau iechyd, cynyddu disgwyliad oes a meithrin cyfalaf cymdeithasol”.   

Mae’r adroddiad yn cynnwys tystiolaeth o arferion gorau wrth Conffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, gan dynnu sylw at y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sy'n galluogi meithrin gallu celfyddydol ac iechyd ar lefel genedlaethol. Mae rhaglen meithrin gallu celfyddydol ac iechyd wedi cyflwyno a datblygu rolau cydlynwyr celfyddydau ac iechyd ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, ac ers hynny, wedi'i chyflwyno yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Canfu adolygiad o’r rhaglen yng Nghymru, a gyhoeddwyd y llynedd, dystiolaeth fod rolau celfyddydau ac iechyd o fewn y GIG yn gwella iechyd a lles cleifion, staff a'r boblogaeth ehangach. Wrth symud ymlaen, mae'r rhaglen yn gobeithio gwreiddio’r model ymhellach i fod yn ymrwymiad prif ffrwd yng nghynllun strategol hirdymor y GIG a pholisi Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Emma Woollett, cadeirydd Conffederasiwn GIG Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o barhau â'n perthynas gref â Chyngor Celfyddydau Cymru ac i lofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn am y trydydd tro, sy’n llawer mwy na chytundeb ysgrifenedig. Mae wedi ein galluogi i weithredu mewn partneriaeth, gan arwain at ganlyniadau diriaethol y profwyd yn annibynnol eu bod yn gwella profiadau cleifion a staff ac iechyd a lles y boblogaeth.

“I wynebu'r heriau aruthrol sy'n wynebu'r system iechyd a gofal yng Nghymru, rhaid i ni feddwl yn fwy holistig ac yn ehangach na thriniaeth glinigol draddodiadol o afiechyd. Mae atal yn allweddol i iechyd a lles ein cymdeithas nawr ac yn y dyfodol, ac mae’r rhaglenni sy’n deillio o’r bartneriaeth hon yn arloesol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.”

Dywedodd Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: “Rydyn ni’n hynod o falch o bopeth y mae ein partneriaeth gyda Conffederasiwn GIG Cymru wedi’i gyflawni yn ystod y 6 blynedd ddiwethaf, ac rydyn ni’n awyddus i adeiladu ar y momentwm hwn a gwneud cynnydd wrth symud ymlaen. 

“Ymhlith y dystiolaeth gynyddol o fuddion y celfyddydau a chreadigrwydd ar ein hiechyd a’n lles corfforol a meddyliol, mae’r bartneriaeth arloesol hon wedi helpu i lywio datblygiad y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Mae ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diweddaraf yn fwy na geiriau ar bapur, mae’n ymrwymiad o’r newydd i ehangu’r gweithredu ar y cyd wrth i ni lywio cam nesaf y twf creadigol ar draws y GIG yng Nghymru – gan gefnogi agwedd holistig tuag at iechyd a lles y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni.”  

    • Mae’r Adolygiad Iechyd Creadigol yn amlinellu buddion aruthrol dull celfyddydol ac iechyd ac yn eiriol dros ei fabwysiadu ar unwaith, yn eang, gan wneud argymhellion i gefnogi Llywodraeth y DU, meiri etholedig a gwneuthurwyr polisi wrth wneud y mwyaf o botensial iechyd creadigol. Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn dangos sut gall iechyd creadigol leihau pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, drwy atal salwch rhag dechrau a thrwy gefnogi’r broses o reoli cyflyrau hirdymor, cynnig dulliau effeithiol, anghlinigol i gleifion sy’n lleihau dibyniaeth ar wasanaethau gofal iechyd ac yn arwain at arbedion o ran costau.

    • Ynglŷn â Conffederasiwn GIG Cymru
      Mae Conffederasiwn GIG Cymru yn cynrychioli’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru; tri ymddiriedolaeth y GIG; Addysg a Gwella Iechyd Cymru; Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydyn ni’n rhan o Conffederasiwn y GIG ac yn gartref i Cyflogwyr GIG Cymru. Rydyn ni’n cefnogi ein haelodau drwy weithredu fel grym ar gyfer newid positif drwy gynrychiolaeth gref, hwyluso arweinyddiaeth systemau a'n polisi rhagweithiol, dylanwadu, cyfathrebu, digwyddiadau a gwaith ymgysylltu.
    • Ynglŷn â Chyngor Celfyddydau Cymru 
      Cyngor Celfyddydau Cymru yw corff cyhoeddus swyddogol y genedl ar gyfer cyllido a datblygu’r celfyddydau. Bob dydd, mae pobl ar draws Cymru yn mwynhau ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Rydyn ni’n helpu i gefnogi a thyfu'r gweithgaredd hwn. Gwnawn hynny drwy ddefnyddio'r arian cyhoeddus sydd ar gael i ni gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddosbarthu’r arian a dderbyniwn fel achos da o’r Loteri Genedlaethol. Drwy reoli a buddsoddi’r cronfeydd hyn mewn gweithgaredd creadigol, mae Cyngor y Celfyddydau yn cyfrannu at ansawdd bywyd pobl ac at les celfyddydol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.

About us

We are the membership organisation that brings together, supports and speaks for the whole healthcare system in England, Wales and Northern Ireland. The members we represent employ 1.5 million staff, care for more than 1 million patients a day and control £150 billion of public expenditure. We promote collaboration and partnership working as the key to improving population health, delivering high-quality care and reducing health inequalities.