WelshConfed25: Cynhadless ac arddangosfa flynyddol

Ble a phryd?
Iau 6 Tachwedd 2025
Stadiwm Dinas Caerdydd
Amdanom Ni
Mae ein cynhadledd ac arddangosfa yn uno arweinwyr iechyd a gofal a'u timau yn un o gynadleddau iechyd a gofal mwyaf Cymru.
Bydd cyfle gennych i rwydweithio ag arweinwyr a rheolwyr sydd â'r gallu i arwain a gyrru newid mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gwrando ar sgyrsiau mewn Cyfarfodydd Llawn a gweithdai rhyngweithiol.
Drwy fynd i WelshConfed25 byddwch yn:
- clywed gan arweinwyr sy'n ysbrydoli syniadau o bob cwr o'r sector iechyd a gofal a thu hwnt
- cael mynediad at sesiynau diddorol ar faterion allweddol a datblygiadau pwysig ym maes iechyd a gofal, gan rannu dysgu ac arferion gorau
- rhwydweithio gyda'ch cymheiriaid a gwneud cysylltiadau newydd
- gadael wedi'ch ysbrydoli â syniadau y gallwch eu mabwysiadu a'u haddasu yn eich sefydliad.
Y llynedd gwnaethom ddwyn ynghyd:
- Dros 400 o gynadleddwyr
- Dros 50 o arddangoswyr
- Dros 50 o siaradwyr
Peidiwch â cholli allan – sicrhewch eich lle nawr!
Derbyniad y gynhadledd a chinio
Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd nos Fercher 5 Tachwedd. Mae ein derbyniad cynhadledd a’r cinio ar agor i bawb. Ni allwn aros i groesawu gwesteion i greu cysylltiadau a chael eu hysbrydoli!
Mae archebion cinio wedi'u cynnwys ar y brif ddolen gofrestru.
Am ymholiadau pellach ynglŷn â'r digwyddiad, anfonwch e-bost at Sandra.cummings@welshconfed.org
Cyfleoedd i noddwyr ac arddangoswyr
Mae cyfleoedd nawdd ac arddangoswyr yn gwerthu'n gyflym, felly e-bostiwch Sandra.cummings@welshconfed.org am ragor o wybodaeth.
Cadwch lygad allan am lansiad y rhaglen.