Rydym yn cefnogi ac yn cynrychioli’r gwasanaeth yn y ffyrdd canlynol;
- bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer materion adnoddau dynol drwy Gymru gyfan ar gyfer Llywodraeth Cymru, y cyfryngau, ac asiantaethau allanol eraill, yn cynnwys undebau llafur;
- cydlynu a chynrychioli buddiannau cyflogwyr y GIG a mynd ati’n barhaus i atgyfnerthu safle’r gweithlu wrth wraidd gofal cleifion ac fel asiant dros newid;
- coladu a chyfleu safbwyntiau Cyflogwyr GIG Cymru mewn trafodaethau yn y DU ar gyflog a thelerau ac amodau ac adrodd yn ôl ar bolisïau sy’n dod i’r amlwg;
- bod yn llais dros gyflogwyr y GIG yng Nghymru a chynrychioli eu safbwyntiau ar faterion y gweithlu ac adnoddau dynol sy’n ymwneud â’r gwasanaeth;
- bod yn rheolwr prosiect ar drafodaethau cymhleth sy’n ymwneud â pholisïau ac arferion y gweithlu drwy Gymru gyfan;
- darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer Cyfarwyddwyr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol a Chyfarwyddwyr Cynorthwyol.