Guidance

Polisi Datblygiad Cyflog - Cwestiynau Cyffredin/Arweiniad: Diwygiwyd Medi 2021

POLISI DATBLYGIAD CYFLOG – CWESTIYNAU CYFFREDIN/ARWEINIAD - Diwygiwyd Medi 2021

15 September 2021

Read Pay progression policy FAQs - Cymraeg External link icon

Cefndir:


• Cytunwyd ar Bolisi Datblygiad Cyflog diwygiedig newydd ar gyfer GIG Cymru gan Fforwm Partneriaeth Cymru ar 14 Tachwedd 2019.
• Roedd datblygiad a gweithrediad y polisi yn un o’r elfennau y cytunwyd arnynt fel rhan o Gytundeb y Fframwaith ar Ddiwygio’r Agenda ar gyfer Newid a gafodd ei gymeradwyo yn ystod cyfarfod eithriadol Fforwm Partneriaeth Cymru ar 28 Medi 2018.
• Y dull a gymerwyd oedd gosod polisi hwyluso lefel uchel sydd â rhai paramedrau cyffredin y gall sefydliadau unigol y GIG ymgorffori gofynion lleol â nhw er mwyn eu cynnwys mewn arfarniadau/amcanion unigol.
• Cafwyd seibiant yn y trefniadau ym mis Mawrth 2020 o ganlyniad i’r pandemig COVID-19 a byddant yn ailddechrau o 1 Hydref 2021.
• Er mwyn caniatáu i reolwyr a staff gael 12 mis llawn i roi’r prosesau angenrheidiol ar waith er mwyn i’r polisi weithredu, ni fydd angen i reolwyr agor unrhyw bwynt codiad cyflog yn unol â’r polisi hwn hyd nes y bydd 12 mis wedi mynd heibio o ailddechrau’r polisi datblygiad cyflog a’r prosesau lleol cysylltiedig, h.y. o 1 Hydref 2022. Yn unol â hynny, telir unrhyw bwynt codiad cyflog a gyrhaeddir cyn 30 Medi 2022 i unigolion yn awtomatig.
• Nodir cyfres o Gwestiynau Cyffredin isod i gefnogi rheolwyr mewn perthynas â gweithredu’r polisi.