Guidance

Egwyddorion Craidd

Datblygwyd yr Egwyddorion Craidd i helpu a chefnogi staff GIG Cymru

22 September 2016

Read Core-Principles-Welsh.pdf External link icon

Datblygwyd yr Egwyddorion i helpu a chefnogi staff GIG Cymru.

Maent yn disgrifio sut y gallwn gydweithio i sicrhau bod ein gwaith, a’n ffordd o weithio, yn seiliedig ar ddiben cyffredin. Mae GIG Cymru’n gwerthfawrogi pob aelod o’i staff - o Gymru, y DU a’r UE, a gwladolion tramor o wledydd y tu allan i’r UE. Pobl sy’n bwysig i’r GIG, rydym yn gweithio gyda phobl i ofalu am bobl. Dyna’n gwaith a’r rheswm dros ein bodolaeth. Rydym o dan bwysau i ddarparu rhagor o wasanaethau, gwell canlyniadau, a chynnal a gwella ansawdd gan ddelio â’r canlynol ar yr un pryd:

  • heriau cyllidol sylweddol
  • lefel uchel o ddisgwyliad gan y cyhoedd
  • poblogaeth sy’n heneiddio a lefelau uwch o gyflyrau cronig.

Datblygwyd yr Egwyddorion hyn i helpu staff i ymateb yn well i’r gofynion hyn. Byddant hefyd yn helpu i adfer cydbwysedd yn y ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd. Felly, rydym yn llai dibynnol ar y broses, ac yn cael ein harwain gan yr Egwyddorion hyn wrth weithredu polisïau a gweithdrefnau. Mae’r Egwyddorion hyn yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i gryfhau gwerthoedd ac ymddygiad Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd. Cawsant eu datblygu mewn partneriaeth gyda chyflogwyr a chynrychiolwyr staff.