Guidance

Canllawiau GIG Cymru i reolwyr ar gefnogi gweithwyr ar absenoldeb salwch tymor hir gyda diagnosis o syndrom ôl-COVID-19

Canllawiau GIG Cymru i reolwyr ar gefnogi gweithwyr ar absenoldeb salwch tymor hir gyda diagnosis o syndrom ôl-COVID-19.

7 January 2022

Read NHS Wales guidance for managers on supporting employees with a diagnosis of post-COVID-19 syndrome - 7 Jan 2022 - Welsh External link icon

I rai o'n gweithlu, mae COVID-19 wedi achosi symptomau sydd wedi para am wythnosau neu fisoedd ar ôl yr haint cychwynnol. Cyfeirir at hyn yn y canllawiau hyn fel “syndrom ôl-COVID-19”, ond mae hefyd yn berthnasol i weithwyr sydd wedi cael diagnosis yn unol â diffiniadau clinigol NICE (uchod).  Defnyddir Syndrom ôl-COVID-19 i ddisgrifio pedair wythnos (neu fwy) o symptomau parhaus ac anhawster personol unigolyn i gyflawni ei weithgareddau, arferion a galwedigaeth arferol. Yn nodweddiadol, mae syndrom ôl-COVID-19 yn cynnwys blinder parhaus, diffyg anadl, meddwl pŵl (heriau gwybyddol), anhunedd, pendro, iselder ysbryd, gorbryder (ac ystod o symptomau eraill sydd i'w gweld ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru). Mae syndrom ôl-COVID-19 yn fwy cyffredin yn ein cymdeithas nag y byddem yn ei ddisgwyl, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod gan un o bob pump o bobl symptomau ar ôl pum wythnos ac un o bob deg yn profi symptomau am 12 wythnos neu fwy.

Er y gall adferiad o syndrom ôl-COVID-19 fod yn araf, mae triniaethau'n gwella wrth i ni wybod mwy am y salwch ac mae llawer o bobl yn gwella, er mewn rhai achosion, dros gyfnod hir. Efallai y bydd gan weithwyr bryderon ynghylch y posibilrwydd o ddychwelyd i'r gwaith ar ôl cael amser i ffwrdd gyda syndrom ôl-COVID-19 (yn enwedig os nad yw wedi gwella'n llawn o hyd) ac efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan ei reolwr a'i sefydliad.

Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi arweiniad i reolwyr a'u cynorthwyo i hwyluso, galluogi a chefnogi gweithwyr, sydd wedi cael diagnosis o syndrom ar ôl COVID-19, i ddychwelyd i'r gwaith lle mae'n briodol ac yn ddiogel gwneud hynny. Bwriad y canllawiau hyn yw ategu ac eistedd ochr yn ochr â Pholisi Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith (MAAW) Cymru Gyfana Chwestiynau Cyffredin COVID-19 i Reolwyr a Gweithwyrac adlewyrchu eu hegwyddorion cyffredinol:

  • cefnogir rheolwyr i reoli o ran y penderfyniadau a wnânt yn ystod y cyfnod hwn;
  • anogir rheolwyr i wneud dyfarniadau cymesur wrth i'r amgylchiadau penodol gyflwyno eu hunain ac wrth wneud y penderfyniadau hyn, i ddilyn asesiad priodol o risg;
  • rheolwyr unigol sy'n bennaf gyfrifol am reoli sefyllfaoedd sy'n gysylltiedig â'r gweithlu. Y rhesymeg dros y dull hwn yw y dylai rheolwyr “adnabod eu gweithwyr” a bod yn gyfarwydd â materion, amgylchiadau ac anghenion unigol eu gweithwyr; gall rheolwyr wrth “adnabod eu gweithwyr”, ac ar ôl trafod a deall anghenion ac amgylchiadau'r unigolyn gael y disgresiwn i benderfynu ar ffordd briodol ymlaen, e.e. a ellir darparu ar gyfer gweithio gartref neu a fyddai cael ei ddadleoli i faes arall yn helpu i ddychwelyd i'r gweithle? Dylent ystyried pa mor briodol yw'r penderfyniad ar gyfer yr unigolyn penodol hwnnw yn erbyn gofynion y gwasanaeth;
  • mae iechyd a llesiant gweithwyr a chleifion o'r pwys mwyaf.

Disgwylir i sefydliadau hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r canllawiau hyn ymhlith gweithwyr a rheolwyr a sicrhau bod y dulliau cytunedig a nodir yn cael eu cymhwyso'n gyson ar draws sefydliadau.

Datblygwyd y canllawiau hyn gan y Grŵp Prosiect Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith, mewn partneriaeth, a byddant yn cael eu diweddaru i adlewyrchu ymchwil sy'n dod i'r amlwg ynghylch syndrom ôl-COVID-19.