Press release

Canllawiau newydd i hybu partneriaethau posib rhwng y GIG a'r diwydiant yng Nghymru

Mae Conffederasiwn GIG Cymru a ABPI)yn lansio canllawiau newydd i gryfhau partneriaethau trawsnewidiol rhwngy GIG a'r diwydiant.

30 October 2025

Heddiw mae Conffederasiwn GIG Cymru a Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) wedi adnewyddu eu partneriaeth i gefnogi cydweithio mwy effeithiol rhwng y GIG a'r diwydiant fferyllol.

Wedi'i lansio cyn cynhadledd flaenllaw WelshConfed25, mae'r canllawiau ar y cyd newydd yn cynnig offer ymarferol i helpu sefydliadau i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso partneriaethau sy'n gwella canlyniadau cleifion.

Wedi'i anelu at sefydliadau GIG Cymru, arweinwyr y diwydiant fferyllol a'r rhai sy'n arwain ar agendâu partneriaeth a thrawsnewid yn eu sefydliad neu system, mae'r canllawiau'n ymateb i adborth i fynd i'r afael â rhwystrau fel diwylliant, ymddiriedaeth a heriau gweithredol. Mae'n darparu adnoddau cam wrth gam i gefnogi cynllunio partneriaethau, contractio, cyflawni a mesur. Mae’r fframweithiau sy'n addas i'w defnyddio ar bob lefel.

Y nod yw sbarduno gwelliannau i iechyd a llesiant cleifion drwy’r canlynol:

  • Alinio prosiectau partneriaeth ag amcanion strategol
  • Cryfhau sicrwydd a meithrin diwylliant o weithio effeithiol mewn partneriaeth
  • Ehangu mentrau llwyddiannus ar draws lleoliadau gofal


Dywedodd Darren Hughes, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru:

“Mae cydweithio traws-sector eisoes wedi profi i ddarparu gofal o ansawdd uwch, llai o dderbyniadau i’r ysbyty a sicrhau defnydd mwy priodol o feddyginiaethau. Fodd bynnag, mae potensial heb ei ddefnyddio i ehangu'r ymdrechion hyn a gyrru trawsnewidiad, gyda system iechyd a gofal integredig Cymru mewn sefyllfa unigryw i gyflawni'r newid sylweddol hwn. Mae arweinwyr y GIG eisiau helpu rhagor o bobl yng Nghymru i elwa o weithio mewn partneriaeth effeithiol a bydd ein canllawiau ar y cyd yn cefnogi timau i gydweithio’n hyderus i sicrhau canlyniadau iechyd gwell i gleifion.”

Dywedodd Richard Torbett, Prif Weithredwr yr ABPI:

“Mae partneriaethau rhwng y GIG a’r diwydiant fferyllol yn hanfodol—nid yn unig ar gyfer darparu mynediad cyflymach at driniaethau sy’n newid bywydau, ond hefyd ar gyfer datgloi 

arbenigedd, capasiti ac arloesedd. Mae tystiolaeth glir, ac enghreifftiau dirifedi sy'n dangos y gwerth gwirioneddol y mae prosiectau cydweithredol yn ei ddwyn i gleifion, staff a'r GIG.

“Bydd ein canllawiau diweddaraf yn helpu’r GIG a’r diwydiant yng Nghymru i sefydlu partneriaethau tryloyw, wedi’u llywodraethu’n dda gydag amcanion cyffredin a mesurau diogelwch cadarn, ac yn creu prosiectau sy’n canolbwyntio’n wirioneddol ar wella canlyniadau cleifion ac iechyd y cyhoedd.”

About us

We are the membership organisation that brings together, supports and speaks for the whole healthcare system in England, Wales and Northern Ireland. The members we represent employ 1.5 million staff, care for more than 1 million patients a day and control £150 billion of public expenditure. We promote collaboration and partnership working as the key to improving population health, delivering high-quality care and reducing health inequalities.