38 o sefydliadau alw ar bleidiau gwleidyddol i ymrwymo i bedwar blaenoriaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol cyn etholiad y Senedd

Mae 38 o sefydliadau o Gynghrair Iechyd a Llesiant Cydffederasiwn GIG Cymru, sy'n cwmpasu lled y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, wedi cymeradwyo pedwar blaenoriaeth ar y cyd i Lywodraeth nesaf Cymru ymrwymo iddynt cyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026.
Mae'r rhain yn canolbwyntio ar atal; gofal, triniaeth a chymorth; y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol a'r seilwaith yn y system iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r gynghrair yn galw ar y Prif Weinidog nesaf i ddyrannu cyllideb wedi'i chlustnodi ar gyfer atal ac ysgogi adrannau ar draws Llywodraeth nesaf Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a phenderfynyddion ehangach iechyd. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r cyhoedd i ddod yn bartneriaid gweithredol yn eu hiechyd a'u llesiant eu hunain trwy wella mynediad at adnoddau, gweithgareddau, sgrinio, profion a brechlynnau.
Gyda llawer o'r sefydliadau cymeradwyol yn cynrychioli staff neu gleifion, mae ffocws ar rymuso staff i weithio gyda'r sector gwirfoddol, cleifion a gofalwyr di-dâl i ailgynllunio gwasanaethau, gwella profiadau a chanlyniadau cleifion. Bydd hyn yn sicrhau mynediad cyfartal. Mae hyn yn cynnwys darparu gofal yn y lle gorau i'r claf, boed hyn gartref, yn y gymuned neu mewn canolfan arbenigol lle bo angen.
Dywedodd Nesta Lloyd-Jones: Cadeirydd Cynghrair Iechyd a Llesiant Cydffederasiwn GIG Cymru a chyfarwyddwr cynorthwyol Cydffederasiwn GIG Cymru:
“Rhaid i bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr sy’n paratoi i ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru roi sylw i’r galwadau hyn sy’n anelu at ymateb i’r sefyllfa heriol y mae ein systemau, sefydliadau, staff a chleifion ynddi a’i gwella. Mae pob un ohonom eisiau’r un peth – i bobl Cymru fyw bywydau gwell ac iachach ac adeiladu cymunedau gwydn – a rhaid i ni beidio â cholli’r cyfle y mae’r etholiad hwn yn ei gynnig i wireddu hyn.”
Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
"Mae angen dybryd i ni ganolbwyntio ar atal os ydym am gael Cymru iachach lle rydym yn gweithredu ar achosion sylfaenol ac yn osgoi mwy o bobl i fyw bywydau mewn afiechyd. Mae galwadau ym maniffesto etholiad y Gynghrair Iechyd a Llesiant yn cyd-fynd â'm hargymhellion yn Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025 a gyhoeddais ym mis Ebrill a'm strategaeth fy hun, Cymru Can.
"Rwy'n cefnogi'n benodol yr her am fwy o bwyslais ar atal oherwydd bod tueddiadau iechyd hirdymor yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Byddant yn gorlethu ein gwasanaethau iechyd os na fyddwn yn cymryd camau nawr."
Dywedodd Jon Antoniazzi, cyfarwyddwr cyswllt Marie Curie ar gyfer polisi a materion cyhoeddus, Cymru :
“Mae Marie Curie yn ymgyrchu i sicrhau bod gan bawb y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt ar ddiwedd eu hoes. Er bod angen camau gweithredu penodol i drawsnewid gofal diwedd oes yng Nghymru, bydd hyn ond yn bosib os byddwn yn cryfhau ein system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan. Dyna pam rydym yn falch o gefnogi’r galwadau gan y Gynghrair Iechyd a Llesiant, yn enwedig yr angen i drawsnewid i ofal, triniaeth a chymorth mwy hygyrch ac i fuddsoddi yn seilwaith digidol y GIG a gofal cymdeithasol.”
Rhestr lawn o sefydliadau sy’n cymeradwyo’r galwadau:
- Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI)
- Asthma + Ysgyfaint DU Cymru
- ASH Wales Cymru
- Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru
- Gofal a Thrwsio Cymru
- Ymchwil Canser y DU
- Crohn's a Cholitis y DU
- Community Leisure UK
- Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
- Cymru yn erbyn Arthritis
- Diabetes UK Cymru
- Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
- Triniaeth Deg i Ferched Cymru
- Anabledd Dysgu Cymru
- Marie Curie Cymru
- Mencap Cymru
- Cymorth Canser Macmillan
- Cymdeithas MS Cymru
- Parkinson's UK Cymru
- RNIB Cymru
- RNID
- Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion
- Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru
- Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol
- Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
- Coleg Brenhinol y Meddygon
- Coleg Brenhinol Podiatreg
- Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
- Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith
- Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
- Cymdeithas Stroke
- Gofal Canser Tenovus
- Cymdeithas Seicolegol Prydain
- Coleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
- Cynghrair Niwrolegol Cymru
- Conffederasiwn GIG Cymru
Gwybodaeth am y Gynghrair Iechyd a Lles Cydffederasiwn GIG Cymru
Sefydlwyd Cynghrair Iechyd a Lles Cydffederasiwn GIG Cymru yn 2015. Mae’n cynnwys dros 80 o sefydliadau iechyd a gofal o'r GIG, llywodraeth leol, gofal iechyd, gofal cymdeithasol, sefydliadau cleifion a'r proffesiynau. Nod y Gynghrair Iechyd a Llesiant Cydffederasiwn GIG Cymru yn llais annibynnol cydweithredol, sy'n gallu nodi a cheisio mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar yr agenda iechyd, gofal cymdeithasol, llesiant ac integreiddio, a'i heffaith ar bobl ledled Cymru.
About us
We are the membership organisation that brings together, supports and speaks for the whole healthcare system in England, Wales and Northern Ireland. The members we represent employ 1.5 million staff, care for more than 1 million patients a day and control £150 billion of public expenditure. We promote collaboration and partnership working as the key to improving population health, delivering high-quality care and reducing health inequalities.